beth yw sylw?
Mae sylw yn gylchgrawn misol, newydd, annibynnol, Cymraeg a fydd yn ymdrin â materion y dydd yng Nghymru yn ei holl agweddau. Bydd y cynnwys yn awdurdodol ac amrywiol a’r diwyg yn ddeniadol a chyfoes. Fe drafodir gwleidyddiaeth, y celfyddydau, hamdden a chwaraeon mewn erthyglau a cholofnau difyr, adolygiadau, llythyrau bywiog a chyfweliadau treiddgar. Bydd lle i bob safbwynt a phlaid gyda lles Cymru yn arwain yr agenda.
pwy yw sylw?
Cynhyrchir gan Gwmni Sylw a fydd yn gweithio o Swyddfa Sylw yn Nhalybont, dan arweiniad Gwyn Jenkins, y Golygydd. Caiff ei gyhoeddi a’i argraffu gan Y Lolfa.
pryd welwn ni’r rhifyn nesaf o sylw?
Daw’r rhifyn nesaf allan yn Ebrill/Mai 2010 os bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cefnogi’r cylchgrawn yn eu Panel Grantiau fis Tachwedd eleni.
sut alla i helpu sylw?
Mae cael eich barn a’ch ymateb chi yn hollbwysig i ni os yw’r cychgrawn i lwyddo a datblygu. Cysylltwch â ni yma. Yn naturiol does dim llawer allwn ni wneud cyn cael sicrwydd o grant gyhoeddi, ond byddem yn falch o glywed gan unrhyw un sydd am gyfrannu deunydd neu syniadau. I drafod agweddau masnachol y cylchgrawn, cysylltwch yn uniongyrchol â’r Lolfa.